|
Mae nifer o brosiectau Cymreig arloesol wedi derbyn
grantiau gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd ar gyfer addasu amrywiaeth eang
o ddeunydd lleol ar bynciau megis hanes, gwyddoniaeth a diwylliant, i
mewn i fformat digidol i fod yn adnodd dysgu gwerthfawr ar y we. Gallwch
edrych arno yn y cyfeiriad www·EnrichWales·net.
Dros y misoedd nesaf, bydd y grwpiau a'r mudiadau a
ariannir gan y rhaglen digideiddio yn casglu eu deunydd ac yn ei roi mewn
lle. Byddwch yn gallu cael mynediad at eu casgliadau trwy safle gwe EnrichUK.
Yng Nghymru, mae amrywiaeth eang o brosiectau, sy'n
canolbwyntio ar elfennau gwahanol - dyma rai enghreifftiau:
Adain Diwylliant, Cyngor
Gwynedd (Adran Diwylliant Cyngor Sir Gwynedd)
Enw'r Prosiect: Llechwefan
http://www·welshslate·info/
Bydd Llechwefan yn rhoi darlun cyflawn o ddiwydiant llechi Cymru a'r gymdeithas
a ddatblygodd ohono. Hon fydd prif ffynhonnell deunydd dadansoddi a dysgu
am ddiwydiant, diwylliant a chyd-destun cymdeithasol ardaloedd llechi
Gogledd Cymru. Bydd yr wybodaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
Enw'r Prosiect: Casglu'r Tlysau
http://www·gtj·org·uk
Mae Casglu'r Tlysau yn brosiect unigryw, sy'n casglu ynghyd y trysorau
sydd yn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau a swyddfeydd cofnodion Cymru.
Bydd y casgliad yn cael ei gyflwyno ar safle gwe newydd, gan ddarparu
panorama o hanes a diwylliant Cymru. Bydd yn dangos amrywiaeth bywyd yng
Nghymru, gan ganolbwyntio ar ei chymunedau, ei hieithoedd, ei phobl, ei
straeon a'i thraddodiadau.
Cyngor Sir Powys
Enw'r prosiect: Diwrnod ym mywyd
http://a-day-in-the-life·powys·org·uk/
view records
Gan ganolbwyntio ar yr hyn oedd yn digwydd ar un diwrnod mewn hanes, sef
Ebrill 6, 1891 (diwrnod y cyfrifiad cenedlaethol), mae'r prosiect yn gyfle
i edrych ar fywyd ym Mhowys 120 mlynedd yn ôl. Bydd yn cynnig straeon
go iawn am unigolion, gan roi cyfle i ddarganfod y gwirionedd am fywyd
yng Nghymru yn Oes Fictoria.
Gwasanaeth Amgueddfeydd
Abertawe
Enw'r prosiect: Swanseaheritage·net
http://www·swanseaheritage·net
Mae Swanseaheritage.net sy'n edrych ar hanes ac amgylchfyd naturiol ardaloedd
Abertawe a Gwyr, wedi cael ei rannu i chwe grwp sef y môr, yr Ail Ryfel
Byd, Pobl, Archaeoleg a Chelfyddyd a Diwylliant. Bydd yr wybodaeth a'r
delweddau digidol o gasgliadau'r Gwasanaeth Amgueddfeydd yn ddwyieithog.
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Enw'r Prosiect: Cymryd Rhan/Getting in on the
act
http://www·cronfa·com/
Bwriad y prosiect yw casglu cronfeydd data o wybodaeth gymunedol ynghyd,
gan ddarparu mynediad i gronfa adnoddau aml gyfrwng ar gyfer cymunedau
lleol. Bydd yn ddwyieithog a bydd yn darparu linciau i wybodaeth electronig
arall megis awdurdodau lleol a mentrau sydd wedi'u hariannu gan arian
y Gymuned Ewropeaidd a'r Loteri.
Prifysgol Cymru, Abertawe
Enw'r prosiect: Deunyddiau'r Meysydd Glo
http://www·agor·org·uk/cwm/
view records
Drwy greu efelychiadau digidol o ddeunydd dogfennol a chlyweledol, gobaith
y prosiect yw ennyn a chynnal diddordeb mewn hanes lleol, datblygiad ac
etifeddiaeth ddiwylliannol Meysydd Glo De Cymru. Bydd y deunydd ar gael
yn Gymraeg a Saesneg.
|